cefndir

 

Cefais fy magu ar fferm ger Caernarfon lle bu tir a môr, a chystadlu mewn eisteddfodau yn ddylanwad mawr yn fy natblygiad. Mae awyrgylch tir a môr â'r ffurfiau damweiniol a greaii natur wedi tanio fy nychymyg erioed.Mynegaf fy themau parhaol sef cariad, cenfigen, colled, trawsnewid, a dathlu bywyd drwy ddefnyddio metaffor i greu awyrgylch a deuoliaeth yr ymateb. Wedi cyflawni fy addysg ym Mangor a Chaerdydd dechreuais fy nghyrfa dysgu yn Rochdale.Wedi hynny cefais swydd yn Ysgol Gyfun Hartridge, Casnewydd, Gwent gyda 2,000 o blant a chwech athro celf. Yn mwynhau'r sialens arbennig gyda mi oedd y diweddar Osi Rhys Osmond. Dychwelais i’r Gogledd i ymgymeryd a dysgu Addysg Celfyddyd i raddedigion ac is-raddedigion ym Mhrifysgol Bangor. Ar ol pymtheg mlynedd, gadewais er mwyn cael amser i ymarfer fy niddordeb personol mewn celfyddyd. Bum yn lwcus iawn i weld dipyn mwy o’r byd oherwydd i fy ngŵr drafaelio llawer yn ei swydd. Teithiais i Asia, America, Ynysoedd Polynesia, De Africa, Awstralia, Cefais glywed a gweld llawer diwylliant gwahanol, celfyddyd gain, crefftwaith a miwsig y bobl hynny. Gadawodd argraff fawr arnaf a gwelaf olion o'r dylanwad hwnnw yn fy ngwaith heddiw.

ARDDANGOSFEYDD
Galeri Casnewydd
Theatr Gwynedd Bangor
Ucheldre
Canolfan Hamdden Beaumaris.
Y Galeri Caernarfon
'Pedwaredd Gainc y Mabinog' M.O.M.A. Cymru Tabernacle Machynlleth  
Arddangosfa deithio 'Y Pedwared Gainc y Mabinogi'
S4C Rhaglen 'Celf ' Y Pedwaredd Gainc Y Mabinogi '
Commisiwn Tecstiliau i Harvey Nichols Llundain
Oriel Mon
Plas Glyn y Weddw
Arddangosfeydd unigol yn yr Academi Frenhinol Conwy
Comisiynau preifat
Casgliad o waith - Holiday Property Bond
Gwaith gan Gynghor y Celfyddau Gogledd Cymru 
Casgliadau preifat hefyd yn Nganada, Awstralia, Ffrainc, Japan, Jersey,Denmark, Cymru a LLoegr.
Cefais fy ethol i ymuno â'r Academi Frenhinol yng Nghonwy yn 2006

Essential SSL