Lyn Grant

Cefais fy magu ar fferm ar lannau'r Fenai ger Caernarfon a thrwy gydol magwriaeth fy mrawd, chwaer a minnau bu môr a thir yn ganolog a phwysig iawn yn ein datblygiad. Yr oeddwn yn ymwybodol iawn o drai a llanw, cylchoedd bywyd drwy’r tymhorau, llenyddiaeth, barddoniaeth a miwsig ac maen’t oll wedi siapio dewisiad fy mynegiant drwy ddefnyddio metaffor. Mynegaf fy themau parhaol sef - cariad, colled, trawsnewid a dathliad bywyd gan ddefnyddio siap,lliw a marciau sydd yn creu awyrgylch a deuoliaeth fy ymateb personol.

PORTFFOLIO

DIRNADAETH YW SYNIAD. CYNHWYSO'R EGIN A’R BLAGUR A RYDD FFURF I WACTER A MIWSIG I DDISTARWYDD. Mae fy nheimladau i tuag at dirwedd yn gymaint o ymateb i gyflwyr y ddynol ryw ag ydynt i’r tirwedd ei hun. Mae cyfaredd ddwy-ochrog yn fy newis i lynu wrth y ddelwedd naturiol tra yn ymgodymu âr gyfrinach foesol guddiedig.Mae’r Gymraeg yn hen iaith hardd a rhamantus ac y mae’n hanfodol o’m diwylliant.Ar ôl ail - adrodd stori Blodeuwedd a chael sgyrsiau diddorol gyda'r diweddar Athro Gwyn Thomas; datblygodd delewddau'r stori drwy amgyffred y teimladau a’r grymusterau ynddi - pethau sydd mor bwerus heddiw ag oeddynt yn yr Oesoedd Canol.

Themâu tragwyddol a welwch yma - cariad, cenfigen, colled, twyll, chwant, anrhefn, lladd a thrawsnewid. Fe welwch barhad o ddefnyddio metaffor ar themâu tragwyddol yn gyson fy ngwaith - rhai wedi eu hysbrydoli gan foddi Capel Celyn yn 1965 ond hefyd llawer engrhaifft arall. 

GORESGYN Y GAIR LLYTHRENNOL DRWY FFURF, LLIW A GWEAD YW SIALENS YR YMATEB IMI.

 

Cyswllt

Dywedwch wrthym am eich anghenion.

(+44) 0777335775

Rhowch eich enw os gwelwch yn dda.
Rowch eich e-bost os gwelwch yn dda.
Rowch eich neges os gwelwch yn dda.

Essential SSL